Skip to main content

Wales’s receding ‘clear red water’ – why we are launching a hunger strike

Welsh-speaking communities are under grave threat as the government kowtows to developers. Drastic action is needed, writes Jamie Bevan

ED MILIBAND recently made a powerful case against a housing system which serves big corporations, saying: “It’s not working, because large developers have a stranglehold on the market” and promising that “the next Labour government will get to grips with it.”

During the election campaign, it’s possible no-one will notice that the Welsh government, under Labour Party control, is acting at odds with his words.

In 2002, then first minister of Wales Rhodri Morgan outlined a more left-wing tack for his devolved government in his “clear red water” speech. But that tide of “red water” now seems to be receding.

Today, the National Assembly in Cardiff will vote on a planning Bill described to us by one lawyer as a “developers’ charter.” The law aims to speed up the planning system by centralising power, setting up regional panels with unelected members calling some of the shots on major housing projects.

The Bill does not include a single clause that would regulate rental and house prices in an effort to tackle inequality. Instead, the Welsh government accepts the developers’ agenda, encouraging developments unaffordable for the poorest as the only way forward.

Because of pressure from big business, the government is refusing a cross-party recommendation to set up a system of language impact assessments for individual planning applications.

They don’t want to change the way housing targets are set either. They favour what makes money for developers over what is needed locally. They don’t want a small flat for a state pensioner to be a priority over the holiday villages for the rich which mean big bucks for the developers. It’s the Welsh language versus profit and it’s the profiteers getting the nod.

Naomi Luhde-Thompson from Friends of the Earth agrees with the criticism, saying: “We’re very concerned that the Welsh government is putting the private interests of big developers before the needs of communities in Wales by simply following changes made in England over the last few years. It isn’t sustainable to put short-term interests before the long-term needs of communities and the environment in Wales.”

So why is the devolved government in Wales putting the interests of the market ahead of people and communities? It reflects a dangerous shift in Welsh politics.

One only has to look at the plans for a new extension to the M4 near Newport at a cost of a billion pounds — against the wishes of everyone apart from business lobbyists CBI — to see the same pattern.

The housing and planning system has a significant impact on the Welsh language. According to the last Census, there was another drop in the number of communities where the majority speak Welsh as well as a fall in the number of speakers. Outward migration is one of the main challenges facing the language. Money calls the shots, meaning affording a home is out of many local people’s reach.

That’s why we are fasting. The situation is serious; for us campaigning for the Welsh language, yes, but also for the cause of equality, democracy and the environment in Wales.

We are taking a stand for the benefit of generations to come, and to speak up against the failure of our politicians to challenge the free market.

  • Jamie Bevan is chair of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn 2002, cafodd nifer o bobl eu calonogi'n fawr gan araith 'd?r coch clir' y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan, oedd yn amlinellu gweledigaeth fwy adain chwith nag agenda Llafur Newydd ar faterion fel menter cyllid breifat (PFI) a phreifateiddio’r gwasanaeth iechyd. Dros y blynyddoedd diwethaf, heb amheuaeth, mae newid wedi bod: mae'r llanw wedi troi ac mae'r 'd?r coch' wedi dechrau encilio.   
Yn nadleuon teledu etholiadol diweddar yr arweinwyr, dywedodd Ed Miliband ei fod yn erbyn system tai a chynllunio sy'n gwasanaethu cwmnïau mawrion:   
"... y broblem gyda'r farchnad tai ... yw'r ffaith nad yw'n gweithio, achos bod gan ddatblygwyr mawrion afael haearnaidd ar y farchnad ... a bydd Llywodraeth nesaf Llafur yn mynd i'r afael â hi ..." - Ed Miliband, Dadl Teledu'r BBC, 16 Ebrill 2015    
Bydd nifer fawr o bobl ar y chwith yng ngwledydd Prydain wedi bod yn falch o'i glywed yn dweud hynny. Tra bod yr ymgyrch etholiadol yn cael sylw pawb yn y cyfryngau, mae'n bosibl bod rhai gwleidyddion yng Nghaerdydd yn gobeithio na fydd neb yn sylwi bod Llywodraeth Cymru, o dan reolaeth y blaid Lafur, yn gweithredu'n gwbl groes i'w eiriau gyda'i Bil Cynllunio.   
Ar y 5ed o Fai, bydd pleidlais ar lawr y Cynulliad yng Nghaerdydd ar Fil Cynllunio lle mae'r Llywodraeth yng Nghymru yn bwriadu cyflymu'r broses gynllunio drwy ganoli grym yn nwylo llai o bobl ar lefel ranbarthol, drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o'u haelodau'n rhai anetholedig.    
Nid oes yr un cymal yn y Bil a fyddai'n ceisio rheoli prisiau rhent na thai er mwyn taclo tlodi ac er mwyn atal all-fudiad o bobl ifanc a rhagor o dai anfforddiadwy. Yn hytrach, maen nhw'n derbyn agenda'r datblygwyr, a'r gred mai adeiladu tai anfforddiadwy yw'r unig ffordd ymlaen. Yn ogystal, oherwydd pwysau gan ddatblygwyr mawrion, nid yw'r Llywodraeth yn fodlon sefydlu, yn unol ag argymhellion trawsbleidiol a chefnogaeth nifer ar feinciau cefn y blaid Lafur, system o asesiadau effaith iaith ar gyfer ceisiadau unigol. Dydyn nhw ddim am newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod chwaith: mae'n well ganddyn nhw ildio i'r hyn sy'n gwneud elw i'r datblygwyr yn hytrach na datblygu yn ôl anghenion lleol. Dydyn nhw ddim eisiau atal datblygiadau, megis pentrefi gwyliau ar gyfer pobl gefnog, fydd yn dod ag elw mawr i'r datblygwyr. Y Gymraeg yn erbyn elw datblygwyr yw hi, a'r datblygwyr sy'n cael ffafriaeth Llywodraeth Cymru'r Blaid Llafur. Mae'n debyg nad oes ots ganddyn nhw na fydd gan bobl leol obaith caneri o allu fforddio'r tai.
Bwriad Llywodraeth Cymru, drwy ei Bil Cynllunio, yw gweld penderfyniadau am ddatblygiadau tai mawrion yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol, yn hytrach na gan awdurdodau lleol. Yn wir, wrth ystyried ceisiadau, os nad yw cynghorwyr yn dilyn cyfarwyddyd eu swyddogion anetholedig, mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion gymryd y penderfyniadau oddi wrthyn nhw. Felly, bydd cynghorwyr yn cael eu cosbi am beidio â dilyn yr hyn mae swyddogion yn dweud wrthyn nhw am ei wneud. Byddech yn llygaid eich lle petaech chi'n meddwl mai dyma fyddai delfryd y datblygwyr mawrion.
Yn ein trafodaethau helaeth am y Bil, cafodd ei ddisgrifio gan un cyfreithiwr fel 'siarter i ddatblygwyr'; ac mae'r croeso gwresog a roddwyd i brif ddarpariaethau'r Bil gan Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi yn adrodd cyfrolau. Mae cynigion y Bil i ganoli grym ar lefel ranbarthol, a rhoi mwy o rym yn nwylo swyddogion anetholedig yn adlewyrchu'r hyn mae'r cwmnïau mawrion wedi bod yn lobïo amdano.
Mae Naomi Luhde-Thompson o Gyfeillion y Ddaear yn cytuno gyda'r feirniadaeth honno: "Rydyn ni'n pryderu'n fawr bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddiannau preifat datblygwyr mawrion o flaen anghenion cymunedau yng Nghymru gan ddilyn newidiadau a wnaed yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw rhoi buddiannau tymor byr o flaen anghenion hirdymor cymunedau a'r amgylchedd yng Nghymru ddim yn gynaliadwy".
Pam mae'r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn rhoi buddiannau'r farchnad a chwmnïau mawrion o flaen pobl a chymunedau felly?    
Mae'n adlewyrchu tueddiad peryglus yng ngwleidyddiaeth Cymru, allai ailadrodd ei hunan ar lefel Brydeinig. Does dim ond angen edrych ar y cynlluniau ar gyfer adeiladu M4 newydd - ar gost o oddeutu un biliwn o bunnau, ac yn groes i ewyllys bron pawb heblaw am Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) - er mwyn gweld yr un patrwm. Mae cynghrair rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru, busnesau mawrion a'r gwasanaeth sifil yn erbyn buddiannau cymunedau.     
Mae'r system tai a chynllunio'n cael effaith fawr ar gyflwr y Gymraeg fel y mae hi ar dlodi ac ar yr amgylchedd. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, roedd cwymp arall yn nifer y cymunedau lle mae mwyafrif y trigolion yn siarad Cymraeg yn ogystal â chwymp yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg. O ran niferoedd mae allfudo yn un o'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg, gyda'r system tai yn un o'r ffactorau sy'n effeithio ar hynny.     
Dyna pam rydyn ni'n trefnu ympryd. Mae'r sefyllfa'n un ddifrifol, o'n safbwynt ni sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg, ie, ond hefyd o edrych yn wrthrychol ar sefyllfa democratiaeth, anghydraddoldeb a'r amgylchedd yng Nghymru. Rydyn ni'n gwneud y safiad hwn er lles y cenedlaethau i ddod, ac er mwyn lleisio barn yn erbyn methiant ein gwleidyddion i herio'r farchnad rydd.
Jamie Bevan,   
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg  

OWNED BY OUR READERS

We're a reader-owned co-operative, which means you can become part of the paper too by buying shares in the People’s Press Printing Society.

 

 

Become a supporter

Fighting fund

You've Raised:£ 9,899
We need:£ 8,101
12 Days remaining
Donate today